Byngalo 2 ystafell wely 3 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 15.07.25 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/x6Y... *
Byngalo 2 ystafell wely 3 person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Adra.
* Mae'r cartref yma'n rhan o Gynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd i brynu tai ledled y sir i'w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy.
Mae'r tŷ yma ar gael gan Tai Teg drwy Gynllun Rhent Canolraddol Adra. *
Byngalo 2 lofft newydd.
Mae’r eiddo’n cynnwys, lolfa, cegin ac ystafell fwyta agored , 2 lofft ac ymolchfa.
Gwres canolog nwy a ffenestri a drysau gwydr dwbl.
Mae’r eiddo’n cynnwys carpedi a gorchudd llawr ymhob ystafell.
Gerddi yn y tu blaen a thu cefn.
Rhent Misol - £640
1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,280
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £25,600 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Meini Prawf Preswylio:
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Llanrug).
Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:
1. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd (fel sy’n cael ei ddiffinio ym mholisi Cofrestr Tai Cyffredinol Gwynedd – 2019) ac wedi byw yn ardal y Cyngor Cymuned Lleol (Llanrug) am lai na 5 mlynedd.
2.Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd ac wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd
3.Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd a wedi byw yng Ngwynedd ers 12 mis
Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
EPC - B
Band Treth y Cyngor - I'w gadarnhau
Anifeiliaid Anwes - Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth.
Eiddo yn barod Awst 2025
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£640 | £1,280 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk