Ty pen teras, 3 ystafell wely, 5 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 31.10.25 at 09:00
* If you would like to apply for the property, please click this link https://forms.office.com/e/KHW...*
Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw, cegin/Ystafell fwyta, toiled lawr grisiau, 3 lofft, ac ymolchfa.
Rhent £678.16
Blaendal £678.16
Blaendal: 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,356.32
Isafswn Incwm Cartref (incwm o gyflogaeth a credydau treth) £27,126.40
Gwres canolog olew
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
Gardd i gefn yr eiddo
Ardal parcio wedi ei neilltuo i 2 gar
EPC - A
Band Treth Cyngor - D
Anifeiliad Anwes - Hyd at 2
Bydd Grwp Cynefin yn darparu lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiau, a charped/llawr yn yr ystafelloedd eraill.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw neu weithio yn ardal cymuned Llansantffraid-ym-Mechain am gyfnod di-dor o 12 mis yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu yn y gorffennol.
Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o Llansantffraid-ym-Mechain yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymunedau Llangedwyn, Llanfechain, Meifod, Llandrinio, Llandysilio, Carreghofa cyn agor allan i Sir Powys.
Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr.
Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.
Eiddo yn barod ganol/diwedd Tachwedd 2025.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £678.16 | £678.16 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk