Fflat llawr waelod 2 lofft 3 person ar gael
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 29.10.24 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cysylltwch â ni drwy e-bost / ffôn neu chat drwy ein gwefan. Rhaid cyswllt gael ei wneud cyn dyddiad cau yr eiddo.*
Fflat llawr waelod 2 lofft 3 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Cartrefi Conwy
Fflat fodern 2 ystafell wely yn natblygiad dymunol iawn ‘Goetre Uchaf’ Redrow yn agos at Ysgolion, archfarchnad ac ysbyty.
Yn cynnwys 2 ystafell wely , 1 Ystafell Ymolchi gyda bath a chawod cymysgydd drosodd, derbynfa / cegin cynllun agored.
Addurn niwtral modern ysgafn a charpedi llwyd drwyddi draw, lloriau finyl llwyd i'r gegin a'r ystafelloedd ymolchi. Mae bleindiau fenis gwyn yn y gegin a'r ystafelloedd ymolchi, ac mae polion llenni ar bob ffenestr arall.
Mae lle i nwyddau gwyn maint safonol 600mm yn y gegin. Bydd pwynt awyr teledu a man Sky fodd bynnag bydd angen trefnu tanysgrifiad taledig.
Bydd y grisiau cymunedol yn cael eu glanhau unwaith y mis ac mae wedi'i gynnwys yn y rhent.
Rhent Misol: £590 (tal gwasanaeth wedi ei gynnwys)
Blaendal: £590
Lleiafswm incwm i gael eich cysidro ar gyfer yr eiddo yw £23,600.
Cysylltiad Lleol: Mae'n rhaid bod ymgeiswyr wedi bod yn byw neu'n gweithio yng Ngwynedd am 12 + mis. Os na dderbyniwyd unrhyw ymgeiswyr addas, byddwn yn ystyried ymgeiswyr o Ynys Môn a Conwy.
Barod i osod: Canol Tachwedd 2024.
EPC - Wedi atodi isod
Band Treth Cyngor: C
Rydym yn derbyn 1 anifail anwes gyda chaniatâd ymlaen llaw.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£590 | £590 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk