Tŷ pâr 3 Ystafell wely 5 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 15.09.26 at 12:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 46 Lon Taylor, Rhyl – Fill out form
Tŷ pâr 3 Ystafell wely 5 person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Cartrefi Conwy.
Mae'r Penley yn gartref teuluol 3 ystafell wely.
Mae gan yr llawr gwaelod cegin / lle bwyta cynllun agored modern. Mae’r ystafell fyw yn awyrog ac yn edrych dros du blaen y tŷ. Mae yna ystafell gotiau ar y llawr gwaelod hefyd.
I fyny'r grisiau mae yna 3 ystafell wely, y meistr sydd efo ystafell gawod en-suite ac mae yna hefyd ystafell ymolchi deuluol ar wahân.
Carpedi a lloriau yn cael ei gynnwys yn yr eiddo.
Rhent misol - £642.70
Tal Gwasanaeth - N/A
Blaendal - £642.70
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £25,708 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Eiddo ar gael 10/09/2026
Meini Prawf Preswylio -
Rhaid eich bod wedi byw, gweithio neu fod â theulu agos yn Sir Ddinbych am 12 mis cyn gwneud cais.
EPC - B
Band treth y Cyngor - C
Anifeiliaid anwes - 1 hefo caniatad
Dim carafanau, faniau gwersylla na chychod.
Bydd angen gwirio credyd a fforddiadwyaeth.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| N/A | £642.70 | £642.70 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk