Fflatiau trydydd lawr ar gyfer pobl dros 55 oed.
2 Ystafell wely 3 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 13.08.26 at 12:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 43,44,55 & 56 Llys Rosa Hovey, Llandudno - – Fill out form
Fflatiau trydydd llawr 2 Ystafell wely 3 person ar gael drwy y cynllun Rhent Canolraddol gyda Clwyd Alyn.
Bloc newydd o fflatiau, yn agos at ganol y dref, yr orsaf reilffordd a'r holl gyfleusterau lleol, gyda pharcio a lifft.
Mae'r fflatiau'n cynnwys ystafell fyw/cegin/ardal fwyta cynllun agored, ystafell ymolchi gyda chawod uwchben y bath, 1 ystafell wely ddwbl, 1 ystafell wely sengl, a gwresogi trydan.
Carpedi a lloriau yn cael ei gynnwys yn yr eiddo.
Rhent Misol - £728.48
Tal Gwasanaeth - £40.60 y mis (wedi ei gynnwys yn y rhent)
Blaendal - £1456.96 (rhent ac blaendal o flaen llaw)
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £29,139.20 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Eiddo ar gael Hydref 2026
Meini Prawf Preswylio -
Blaenoriaeth 1: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) â Llandudno.
Blaenoriaeth 2: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) â'r cymunedau cyfagos.
Blaenoriaeth 3: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) ag Conwy.
EPC- I'w gadarnhau
Band Treth Y Cyngor - I'w gadarnhau
Anifeiliaid Anwes - Rhaid cael caniatâd gan ClwydAlyn cyn y caniateir cadw anifail anwes.
Ni chaniateir carafanau, cartrefi modur, faniau gwersylla nac unrhyw gerbydau tebyg.
Bydd angen gwirio credyd a fforddiadwyaeth.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| N/A | £728.48 | £1456.96 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk