Cyfryngau Cymdeithasol

42 Clayton Road, Bwcle

  • Shared Equity

Flat Llawr Uchaf 2 Lofft

  • Sir Fflint
  • 2 Ystafelloedd Gwely

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 42 Clayton Road, Buckley – Fill out form

Fflat llawr uchaf 2 ystafell wely ar werth drwy'r Cynllun Rhan Ecwiti.

Pris fforddiadwy 70% £94,500 gyda Thâl Gwasanaeth o £118 y mis

Mae'r eiddo'n cynnwys ystafell fyw, cegin, 2 ystafell wely, ystafell ymolchi en-suite ac ystafell ymolchi deuluol yn fyr. Gwres canolog trydan, ffenestri gwydr dwbl UPVC. Cynigir yr eiddo hwn gyda charpedi a lloriau drwyddo. Parcio wedi'i ddyrannu. Gerddi blaen a chefn cymunedol.

Daliadaeth yr eiddo yw rhydd-ddaliad o 980 o flynyddoedd gyda £250 o rhent tir y flwyddyn.

I gofrestru diddordeb neu i drefnu gwylio, cysylltwch â Tai Teg ar 0845 601 5605 neu www.taiteg.org.uk

Blaenoriaeth 1: 22/1/2026

Wedi byw neu weithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yn cymuned Bwcle, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i brynwr o ward Bwcle Pentrobin, wedyn yn agor allan i ward Bwcle Gorllewin Bistre, Bwcle Dwyrain Bistre a Mynydd Bwcle neu gyda chysylltiad lleol cryf i’r ward drwy gael rhieni, brawd, chwaer, plentyn, teidiau a neiniau, wŷr neu wyres sydd yn byw yn y Ward ac wedi byw yno ers lleiafswm o 3 mlynedd ddi-dor.

Blaenoriaeth 2 - 19/3/2026
Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir yn Flaenoriaeth 1, bydd y meini prawf yn ymestyn i Llaneurgain, Northop Hall, Ewlo, Penarlag, Penyffordd, Coed Llai, Argoed a New Brighton.

Blaenoriaeth 3 - 16/4/2026
Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1 a 2 bydd anghenion preswyl a gwaith yn ymestyn i Sir y Fflint yn gyfan, gydag amser cymhwyso yn lleihau o 3 mlynedd i 2 mlynedd.

Blaenoriaeth 4 - Ar ôl 16/4/2026
Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1, 2 a 3 bydd anghenion preswyl yn ymestyn i gynnwys Siroedd Dinbych a Wrecsam gydag amser cymhwyso yn lleihau o 2 mlynedd i 12 mis.

Ffioedd i Gyngor Sir y Fflint Bydd gofyn ichi lofnodi Arwystol Cyfreithiol sy'n ddogfen gyfreithiol isicrhau'r ecwiti 30%. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn codi ffi o £300 ar gyfer paratoi'r ddogfen hon.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: Buckley CH7 3GB, UK
  • Cod Post: CH7 3GB
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Ail werthiant

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£145,000 £101,500 Isafswm 5%

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English