Tŷ pâr 3 llofft 5 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 28.04.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 40 Llys Cadfan, Oakenholt, Sir Fflint/ Flintshire – Fill out form
Tŷ pâr 3 llofft 5 person ar gael drwy'r Cynllun Rhentu i Brynu gyda Clwyd Alyn
Tŷ pâr tair ystafell wely ar stad fodern. Mae’r eiddo’n cynnwys cegin fodern, ystafell fyw fawr gyda storfa o dan y grisiau, toiled llawr gwaelod, 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi deuluol.
Mae’r eiddo’n elwa o 2 le parcio, gardd yn y cefn, carpedi drwyddi draw a gwres canolog nwy.
Rhent Misol - £975
Tal Gwasanaeth - £12.71
Pris Marchand Agored - £200,000
Lleiafswm incwm i gael eich cysidro ar gyfer y eiddo - £39,508.40
Blaendal = Mis rhent fel deposit ac mis rhent o flaen llaw - Cyfanswm £1,367.59
Meini Prawf Preswylio:
Blaenoriaeth 1: 3 mlynedd o gyswllt o fyw/gweithio yn Oakenholt/ Fflint
Blaenoriaeth 2: 3 mlynedd o cyswllt o fyw/gweithio/byw yn flaenorol yn Northop, Northop Hall, Bagillt, Connahs Quay, Greenfield.
Eiddo yn barod Mis Mai 2026
EPC - Wedi atodi
Band Treth Cyngor - I'w gadarnhau
Anifeiliaid anwes yn cael eu caniatáu
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £200,000 | £975 | £1,367.59 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk