Ty ar ben i hun 3 ystafell wely 5 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 24.04.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 4 Ffordd Madog, Oakenholt, Sir Fflint/Flintshire – Fill out form
Ty ar ben i hun 3 ystafell wely 5 person ar gael drwy'r cynllun Rhentu i brynu drwy Adra.
Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, ystafell gotiau lawr grisiau, 3 llofft, en-suite ac ymolchfa
Rhent misol: £1,050.00 pcm. Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg.
Blaendal: 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £2,120.46
Tal Gwasanaeth - £20.46 yn fisol yn ychwanegol ir rhent
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £44,850
Pris farchnad agored - £240,000
Prisiad yn ddilys hyd at 20/04/2027 Mae prisiau'n agored i newid yn dibynnu ar werth y farchnad ar y dyddiad prynu
Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir .
Meini prawf preswylio - Blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw neu weithio yn ardal Fflint o fewn y 12 mis dwythaf. Os nad oes ymgeiswyr addas yn cyrraedd y meini prawf cysylltiad lleol byddwn yn ystyried pob ymgeisydd cymwys arall.
EPC - B
Band treth cyngor - D
Anifeiliad anwes- Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.
Eiddo'n barod - Mai 2026
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £240,000 | £1,070.46 | £2,120.46 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk