Cyfryngau Cymdeithasol

4 Dolfair, Beddgelert

Tŷ Pâr 3 ystafell wely 5 person

  • Gwynedd
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 18.06.26 at 09:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma, 4 Dolfair, Beddgelert – Fill out form*

Ty 3 lofft wedi ei adnewyddu. Mae’r eiddo’n cynnwys, lolfa, cegin ac ystafell fwyta agored , lofft ac ymolchfa. Gwres canolog nwy a ffenestri a drysau gwydr dwbl. Mae’r eiddo’n cynnwys carpedi a gorchudd llawr ymhob ystafell. Rhent Canolraddol trwy Adra. Anifeiliad anwes Yn unol a’r amodau o fewn eich contract.

Rhent Misol: £712.72

EPC:

Tal Gwasanaeth: £7.28

Blaendal: 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,432.72.

Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir

Meini Prawf Preswylio

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Beddgelert). Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:

1. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd (fel sy’n cael ei ddiffinio ym mholisi Cofrestr Tai Cyffredinol Gwynedd – 2019) ac wedi byw yn ardal y Cyngor Cymuned Lleol (Beddgelert) am lai na 5 mlynedd.

2. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd ac wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd

3. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd a wedi byw yng Ngwynedd ers 12 mis

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.



Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 4 Dolfair, Beddgelert, Caernarfon, UK
  • Cod Post: LL55 4YD
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
d/b £712.72 £1,732.72

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English