Cyfryngau Cymdeithasol

36 Llys Curig, Oakenholt, Flint, Sir y Fflint

Tŷ pâr 3 Llofft 4 Person ar gael

  • Sir Fflint
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 19.01.26 at 09:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 36 Llys Curig, Oakenholt, Flint, Sir y Fflint / Flintshire – Fill out form

Tŷ pâr 3 Llofft 4 Person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Grwp Cynefin.

Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw, cegin/ystafell fwyta, ystafell gotiau lawr grisiau, 3 llofft ac ymolchfa.

Gwres canolog nwy, ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC, Mae’r eiddo yn cynnwys carped/gorchudd llawr ymhob ystafell, gardd i gefn yr eiddo ac ardal parcio wedi ei neilltuo yn gefn yr eiddo.

Bydd Grwp Cynefin yn darparu lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiaru.

Rhent misol: £800.16

Tal gwasanaeth: £13.90

Blaendal: Bydd angen i chi dalu rhent un mis a blaendal ymlaen llaw, sef £814.06.

Lleiafswm incwm i gael eich cysidro ar gyfer yr eiddo yw £32,562.40

Barod i osod: Diwedd Chwefror/Mawrth

Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.

Meini Prawf -

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod

  • yn byw neu weithio yn ardal cymuned Oakenholt am gyfnod di-dor o 1 mlynedd yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu wedi byw neu weithio yn ardal cymuned Oakenholt am gyfnod o 1 mlynedd yn y gorffennol.
  • Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o Oakenholt yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymuned Y Fflint neu Cei Connah, Llaneurgain cyn agor allan i Sir y Fflint

Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr. Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.

Band Treth Cyngor - C - I'w gadarnhau

EPC - B

Anifeiliaid Anwes - Hyd at 2

Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: Flint CH6 5FW, UK
  • Cod Post: CH6 5FW
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£814.06 £814.06

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English