Fflat llawr cyntaf 2 lofft 3 person ar gael
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 27.02.25 at 23:45
* Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cysylltwch â ni drwy e-bost / ffôn neu chat drwy ein gwefan. Rhaid cyswllt gael ei wneud cyn dyddiad cau'r eiddo.*
Fflat llawr cyntaf 2 lofft 3 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol drwy Grwp Cynefin.
Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw/ cegin, 2 lofft (1 dwbwl 1 seng) ac ymolchfa.
Gwres canolog nwy
Ffenestri dwbl UPVC
Ardal parcio ac ardal parcio ymwelwyr wedi ei neilltuo
Cyntedd Cymunedol
Rhent Misol: £460.54
Tal Gwasanaeth: £102.22 (misol)
Blaendal: £562.76
Barod i osod: Mawrth 2025
Lleaifswm incwm i gael eich cysidro ar gyfer yr eiddo yw £22,510.40
Byddwn yn caniatau un anifail anwes.
Band Treth Cyngor: C
Tra mae’r gontract yn Gontract Safonol 6 mis, mi fydd wedyn yn parhau ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r gontract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr.
Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.
Bydd ymgeiswyr yn cael eu cysidro yn dilyn y drefn isod:
Blaenoriaeth 1 (30/01/2025 - 27/02/2025)
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw neu weithio neu gyda teulu agos yn ardal cymuned Brynffynnon am gyfnod di-dor o 1 mlynedd yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu yn y gorffennol.
Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o Brynffynon ar ol 4 wythnos
Blaenoriaeth 2 (27/02/2025 - 27/03/2025)
yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymedau Esclusham, offa, Grosvenor, New Brighton a Coedpoeth.
Ar ol 4 wythnos arall
Blaenoriaeth 3 (27/03/2025 - 24/04/2025)
byddwn yn agor allan I ward tref Wrecsam,
ac ar ol cyfnod o 12 wythnos,
Blaenoriaeth 4 (24/04/2025 - 22/05/2025)
agor i Sir Wrecsam.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£605.95 | £1,211.90 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk