Cyfryngau Cymdeithasol

34 Ffordd Pentre Mynach, Bermo

Byngalo ar ben ei hun 2 ystafell wely 3 person

AGOR AR GYFER CEISIADAU WRTH-GEFN

  • Gwynedd
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 06.11.25 at 09:00

AGOR AR GYFER CEISIADAU WRTH-GEFN

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 34 Ffordd Pentre Mynach, Barmouth – Fill out form *

Byngalo ar ben ei hun 2 ystafell wely 3 person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Adra.

* Mae'r cartref yma'n rhan o Gynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd i brynu tai ledled y sir i'w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy.

Mae'r tŷ yma ar gael gan Tai Teg drwy Gynllun Rhent Canolraddol Adra. *

Byngalo 2 lofft wedi ei adnewyddu

Mae’r eiddo’n cynnwys, lolfa, cegin, ystafell fwyta agored ac ymolchfa.

Gwres canolog nwy a ffenestri a drysau gwydr dwbl.

Carpedi a gorchudd llawr ymhob ystafell.

Gerddi tu cefn

Rhent Misol - £700

1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,400

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £28,000 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).

Meini Prawf Preswylio:

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Bermo).

Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:

  1. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd (fel sy’n cael ei ddiffinio ym mholisi Cofrestr Tai Cyffredinol Gwynedd – 2019) ac wedi byw yn ardal y Cyngor Cymuned Lleol (Abersoch) am lai na 5 mlynedd.
  2. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd ac wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd
  3. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd a wedi byw yng Ngwynedd ers 12 mis

Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir

EPC - C

Band Treth y Cyngor - D

Anifeiliaid Anwes - Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth.

Eiddo yn barod Mehefin 2025

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 34 Ffordd Pentre Mynach, Barmouth LL42 1EN, UK
  • Cod Post: LL42 1EN
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo:

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£700 £1,400

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English