Ty teras 3 ystafell wely ar gael drwy'r Cynllun Rhan Ecwiti
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cysylltwch â ni drwy e-bost / ffôn neu chat drwy ein gwefan. Rhaid cyswllt gael ei wneud cyn dyddiad cau'r eiddo.*
Ty teras 3 ystafell wely ar gael drwy'r Cynllun Rhan Ecwiti
Tŷ teras 3 ystafell wely. Gardd breifat a lle i barcio cerbyd oddi ar y stryd.
Mae'r eiddo yn cynnwys yn gryno:
En-suite
toiled lawr y grisiau
Cegin fwyty
Band Treth y Cyngor - D
Leasehold - 988 mlynedd yn weddill
Tal Gwasanaeth - £74.24 (pob 6 mis)
Rhent Tir - £250 yn flynyddol
Pris Marchnad Agored - £235,000
70% Pris Fforddiadwy - £164,500
Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.
Gweler isod am Feini prawf Cysylltiad Lleol
BLAENORIAETH 1:- 24/10/2024 - 19/12/2024
a) Ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton).
b) Ymgeiswyr sydd eisioes wedi byw neu weithio yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton) am gyfnod o oleiaf 3 mlynedd ac eisiau dychwelyd neu
c) Ymgeiswyr sydd wedi gweithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton).
d) Ymgeiswyr sydd â cysylltiad lleol cryf i gymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton) drwy gael rhieni, brawd, chwaer, plentyn, teidiau a neiniau, wŷr neu wyres sydd yn byw yng nghymuned Brychdyn ac wedi byw yno ers lleiafswm o 3 mlynedd ddi-dor.
BLAENORIAETH 2 :-19/12/2024 - 13/02/2025
e) Ymgeiswyr sydd dan farn y Cyngor mewn angen o dai fforddiadwy a sydd wedi byw neu weithio o fewn Sir Fflint am oleiaf 3 mlynedd.
Mae ffi asesu o £75.00
You will be required to sign a Legal Charge which is a legal document that secures the 30% equity. Flintshire County Council will charge a fee of £300 for preparing this document.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£235,000 | £164,500 | Minimum 5% deposit required, dependent on lender. |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk