Tŷ pâr 3 Ystafell wely 5 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 23.10.24 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cysylltwch â ni drwy e-bost / ffôn neu chat drwy ein gwefan. Rhaid cyswllt gael ei wneud cyn dyddiad cau yr eiddo.*
Tŷ pâr 3 Ystafell wely 5 person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Adra
Mae’r eiddo’n cynnwys cegin/ ystafell fwyta, lolfa. 3 lofft ac ystafell molchi. Gwres canolog oel. Gerddi yn y tu blaen a’r cefn Mae’r eiddo yn cynnwys carped/ gorchudd llawr ymhob ystafell.
Rhent Misol - £720 pcm
1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,440
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £28,800 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Meini Prawf Preswylio:
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Abersoch).
Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:
Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
EPC - D
Band Treth y Cyngor - C
Anifeiliaid Anwes - Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth.
Eiddo yn barod Tachwedd 2024
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£720 | £1,440 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk