Tŷ pâr 3 Ystafell Wely
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 05.11.25 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/kzf... *
Mae’r eiddo’n cynnwys, lolfa, cegin ac ystafell fwyta agored , 3 lofft ac ymolchfa.
Gwres canolog nwy a ffenestri a drysau gwydr dwbl.
Mae’r eiddo’n cynnwys carpedi a gorchudd llawr ymhob ystafell.
Gerddi tu blaen a thu cefn
Rhent Misol: £720
Tal Gwasanaeth: I'w gadarnhau
Blaendal: 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1440.00
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro- £28,800.00
Meini Prawf Preswylio
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Felinheli).
Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:
EPC - C
Band Treth Y Cyngor - D
Eiddo ar gael Tachwedd 2025
Anifeiliad anwes:- Yn unol a’r amodau o fewn eich contract
| Yn unol a’r amodau o fewn eich contract Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol: • Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys • Cyfyngiadau ar barcio • Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth • Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn • Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu • Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon • Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau) • Cyfyngiadau ar osod Arwyddion • Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid • Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth • Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir gan y Datblygwr. Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid. Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.
|
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £720 | £1,440 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk