Ty teras 2 Ystafell Wely 4 Person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Cartrefi Conwy.
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 02.10.26 at 12:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 30 Cilfach Crwys, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd – Fill in form
Ty teras 2 Ystafell Wely 4 Person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Cartrefi Conwy.
Mae'r tŷ teras canol 2 ystafell wely hwn wedi'i leoli ar ddatblygiad dymunol Goetre Uchaf ym Mangor. Nid yw’r eiddo wedi’i ddodrefnu ac mae lloriau finyl yn y gegin a’r ystafell ymolchi. Mae’r ty yn cynnwys cyntedd mynediad gyda chegin, ac ystafell fyw gyda drysau patio sy’n arwain allan i’r ardd gefn, sydd a man patio bach, lawnt a lle ar gyfer sied. I fyny'r grisiau mae 2 ystafell wely, gyda’r ddwy ohonynt yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite. Mae'r eiddo wedi'u lleoli o fewn pellter byr i ysbyty Ysbyty Gwynedd.
Rhent misol - £770.16 (mae rhent yn gallu newid oherwydd cynnydd rhent blynyddol)
Blaendal - £770.16
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £30,806.40 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Eiddo ar gael 22/10/2026
Meini Prawf Preswylio - Rhaid bod wedi byw / gweithio / cael teulu agos yn Ngwynedd am 12 mis cyn gwneud cais. Os na dderbynnir digon o geisiadau, gellir ei agor i drigolion Ynys Môn a Conwy.
EPC - B
Band Treth Y Cyngor - C
Anifeiliaid anwes - 1 hefo caniatad
Standard Occupation Contract
Parcio ar gael, dim faniau gwersylla, carafannau na chychod.
Yn derbyn ceisiadau ar y cyd gan e.e. rhiant/plentyn a/neu dau/dwy ffrind
Yn derbyn ceisiadau gan bobl â chredyd gwael h.y. CCJ / IVA ac ati.
Efallai bydd angen gwirio credyd a fforddiadwyaeth.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| N/A | £770.16 | £770.16 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk