4 x Tŷ Pâr 3 lofft 5 person
1 PLOT AR OL
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 26.09.25 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/3s5... *
4 x Tŷ Pâr 3 lofft 5 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Adra.
Datblygwr - Castle Green
Math o eiddo - Highfield
Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, toilet lawr grisiau, 3 llofft, ac ymolchfa.
Bydd gan bob eidddo y canlynol:
Ffenesti gwydr dwbl a drysau Ffrengig yn agor i’r ardd
Gardd flaen a chefn gyda gwair
Gas Boiler
Ffitiadau golau ynni isel 100% trwy’r eiddo
Gardd gefn ddiogel
Dreif breifat
Cegin ac ystafelloedd ymolchi modern
Mae’r eiddo yn cynnwys gorchudd llawr trwyddo.
Ystafell Fyw - 4.76m x 3.39m
Cegin / Ystafell fwyta - 4.58m x 3.33m
Lloft 1 - 4.54m x 2.50m
Lloft 2 - 3.54m x 2.50m
Lloft 3 - 2.86m x 2.00m
Ymolchfa - 2.00m x 1.87m
Rhent misol: £750.69 pcm. Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg.
Tal Gwasanaeth: £5.06 yn fisol yn ychwanegol ir rhent.
Blaendal: 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,506.44
Lleiafswm incwm i gael eich cysidro ar gyfer yr eiddo ydi £30,230 (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau).
Blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd wedi byw neu gweithio yn ardal Sir Ddinbych o fewn y 5 mlynadd dwythaf. Os nad oes ymgeiswyr addas yn cyrraedd y meini prawf cysylltiad lleol byddwn yn ystyried pob ymgeisydd cymwys arall.
Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Rydym yn caniatau anifeiliaid anwes yn unol a’r amodau o fewn eich contract.
Band Treth Cyngor: I'w gadarnhau
EPC: B
Barod i osod: Gorffennaf 2025
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys
(ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
· Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
· Cyfyngiadau ar barcio
· Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
· Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
· Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
· Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
· Rhwymedigaethau'n ymwneud â Charthffosydd a Gwasanaethau Eraill,
· (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
· Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
· Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
· Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
· Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir
· gan y Datblygwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun
newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£755.75 | £1,506.44 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk