Tŷ pâr 2 lofft 4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Clwyd Alyn.
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 05.10.26 at 12:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 19 Erwau’r Coleg, Llangefni – Fill in form
Tŷ pâr 2 lofft 4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Clwyd Alyn.
Mae'r eiddo yn cynnwys cyntedd, ystafell fyw, cegin/ystafell fwyta, ystafell gawod/toiled (wet room), 2 ystafell wely ddwbwl ac ystafell ymolchi deuluol.
Mae'n cynnwys system wresogi carbon isel (pwmp gwres ffynhonnell aer), lloriau drwyddi draw, gardd yn y cefn a pharcio oddi ar y ffordd ar gyfer 1 gar.
Rydym yn derbyn anifeiliaid anwes. Bydd angen llenwi ffurflen ganiatâd ar gyfer anifail anwes cyn derbyn y denantiaeth.
Carpedi a lloriau yn cael ei gynnwys yn yr eiddo.
Rhent Misol - £764.52
Tal Gwasanaeth - £4.78 y mis
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £30,772 - (incwm trwy gyflogaeth a budd-daliadau)
Blaendal - £1,538.60
Eiddo ar gael Hydref 2026
Meini Prawf Preswylio -
Blaenoriaeth 1: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) â Llangefni.
Blaenoriaeth 2: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) â'r cymunedau cyfagos.
Blaenoriaeth 3: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) ag Ynys Môn.
EPC - A
Band Treth Y Cyngor - C
Bydd angen gwirio credyd a fforddiadwyaeth
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| N/A | £764.52 | £1,538.60 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk