Cyfryngau Cymdeithasol

18 Llys Cadfan, Oakenholt

Fflat Ail Lawr 2 Ystafell Wely 3-4 Person

  • Sir Fflint
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 19.06.26 at 09:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma, 18 Llys Cadfan – Fill out form *

Fflat ail lawr 2 ystafell wely 3-4 person ar gael drwy y Cynllun Rhent Canolraddol gyda Clwyd Alun

Rhandy 2 ystafell wely, wedi’i adeiladu’n draddodiadol. Wedi’i leoli ar safle poblogaidd Croes Atti, mae’r bloc o randai hardd wedi eu hadeiladu gan Anwyl ar ddiwedd 2020.

Mynedfa

Byddwch yn dod mewn i’r adeilad gydag allwedd ac yn cerdded i mewn i’r bloc cymunedol. Gyda digon o olau, ac yn

groesawgar, bydd y bloc modern yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol wrth i chi gamu i mewn.

Cerddwch i fyny i’r rhandy, sydd wedi’i leoli ar yr llawr cyntaf ac ewch i mewn drwy’r drws ffrynt.

Byddwch yn cerdded yn syth i’r cyntedd, sy’n rhoi mynediad i’r holl ystafelloedd yn yr eiddo; yr ystafell fyw / cegin, ystafelloedd gwely 1 a 2, ystafell ymolchi a chwpwrdd storio.

Cegin / Ystafell Fyw

Mae’r ystafell fyw / cegin cynllun agored yn olau gyda digon o le. Mae lliw y gegin yn fodern ac mae lle i roi oergell a rhewgell, popty a pheiriant golchi.

Mae maint yr ystafell fyw yn wych, gyda golau yn llifo i mewn drwy’r drysau patio. Gyda ffenestri mawr, a drysau patio – nid yw’r ystafell hon fyth yn ddiflas! Mae bleinds wedi cael eu gosod yn y gegin a’r ystafell fyw.

Ystafell ymolchi

Mae’r ystafell ymolchi gwyn a modern yn cynnwys toiled, basn ymolchi dwylo, rheilen lliain a baddon gyda chawod uwchben. Mae’r ystafell yn cynnwys sgrin cawod gwydr a ffenestr wydr barugog.

Ystafelloedd Gwely (1 a 2)

Mae dwy ystafell wely o faint ardderchog yn fonws ychwanegol i’r eiddo. Mae’r brif ystafell wely hefyd yn elwa o ddrysau patio, ac mae gan yr eiddo nodweddion arbennig.

Nodweddion Ychwanegol

Contract Meddiannaeth Safonol

Mae gorchuddion llawr wedi’u cynnwys yn y gegin ac yn yr ystafell ymolchi

Gwres canolog nwy.

Systemau ysgeintwyr ac awyru wedi eu gosod.

Mae parcio wedi’i gynnwys yn y maes parcio – 1 gofod i bob eiddo

Gwybodaeth Bwysig

Rhent fesul mis calendr = £675.00

Angen blaendal = £675.00

Un mis o rent ymlaen llaw a blaendal yn ofynnol cyn arwyddo ar gyfer yr eiddo

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy: £27,000

Ddim yn derbyn ceisiadau gan bobl â chredyd gwael h.y. CCJ / IVA ac ati

Ni chaniateir anifeiliaid anwes yn yr adeilad. Ni chaniateir ysmygu yn yr adeilad. Dim faniau gwersylla

Band Treth y Cyngor: B

EPC: B

Contract Meddiannaeth Safonol

Ar Gael: Awst 2026

Meini Prawf Preswylio

Blaenoriaeth 1

Cysylltiad lleol â Oakenholt a Fflint e.e. byw a gweithio yn y gymuned am o leiaf 12 mis.

Blaenoriaeth 2

Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i gymunedau cyfagos Flint Mountain, Bagillt, Llaneurgain, Northop Hall, Cei Connah and Shotton

Blaenoriaeth 3 Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i Sir y Fflint cyfan


Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 18 Llys Cadfan, Oakenholt, Flint, UK
  • Cod Post: CH6 5WF
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
d/b £675.00 £675.00

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English