Cyfryngau Cymdeithasol

16 Nant Y Felin, Nefyn

Tŷ pâr 3 Ystafell Wely

  • Gwynedd
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 26.11.25 at 12:30

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 16 Nant Y Felin, Nefyn, Gwynedd – Fill out form

Tŷ pâr 3 Ystafell Wely ar gael drwy y Cynllun Rhent Canolraddol gyda Adra.

Mae'r cartref yma'n rhan o Gynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd i brynu tai ledled y sir i'w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy.

Mae'r tŷ yma ar gael gan Tai Teg drwy Gynllun Rhent Canolraddol Adra.

@cynlluniautaicyngorgwyneddhousingschemes

Ty 3 lofft wedi ei adnewyddu.

Mae’r eiddo’n cynnwys, lolfa, cegin ac ystafell fwyta agored , 3 lofft ac ymolchfa.

Gwres Canolog Air Source a ffenestri a drysau gwydr dwbl.

Mae’r eiddo’n cynnwys carpedi a gorchudd llawr ymhob ystafell.

Gerddi tu cefn

Isafswm incwm i'w ystyried (incwm o cyflogaeth a credydau threth) -

£27,200

Rhent Misol- £673.93

Tal Gwasanaeth - £6.07 y mis

Eiddo ar gael Rhagfyr 2025

Blaendal - 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £ 1,347.86

Mae’r eiddo yn cael ei osod ar sail contract safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir .


Meini Prawf Preswylio -

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Nefyn).

Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:

1. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd (fel sy’n cael ei ddiffinio ym mholisi Cofrestr Tai Cyffredinol Gwynedd – 2019) ac wedi byw yn ardal y Cyngor Cymuned Lleol (Nefyn fel uchod) am lai na 5 mlynedd.

2. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd ac wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd

3. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd a wedi byw yng Ngwynedd ers 12 mis


EPC - B

Band Treth Y Cyngor - C

Anifeiliaid anwest - Yn unol a’r amodau o fewn eich contract. 

Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond

heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:  

• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys 

• Cyfyngiadau ar barcio 

• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth 

• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn   

• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu   

• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac

ymylon   

• Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)  

• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion 

• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid 

• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth 

• Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u

gosodir gan y Datblygwr.  

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.   

Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.   

Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 16 Nant Y Felin, Nefyn, Pwllheli LL53 6LH, UK
  • Cod Post: LL53 6LH
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
n/a £680.00 £1,347.86

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English