Tŷ terras 2 ystafell wely, 3-4 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 30.10.25 at 15:30
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 16 Hornbeam Close, Dobshill, Sir Fflint/ Flintshire – Fill out form
Tŷ terras 2 ystafell wely, 3-4 person ar gael drwy y cynllun Rhent Canolraddol gyda New Homes.
Eiddo
Llawr Gwaelod
Wrth gerdded i mewn i’r adeilad, byddwch yn cerdded i mewn i’r cyntedd sydd yn cynnwys y grisiau yn syth o’ch blaen i fyny i’r llawr cyntaf, a drws ar y dde i fynd mewn i’r ystafell fyw. Mae’r ystafell fyw ym mlaen y tŷ gyda’r gegin yn y cefn. Yn y gegin, mae ystafell gawod sy’n cynnwys; toiled, basn golchi dwylo a chawod. Mae drws cefn yn y gegin sydd yn arwain drwodd i’r ardd a giât i’r fynedfa gefn.
Llawr Cyntaf
O’r grisiau yn y cyntedd, fe fyddwch chi’n cerdded i fyny i ben y grisiau. I fyny’r grisiau, mae gennych chi 2 ystafell wely dwbl ac ystafell ymolchi.
Mae’r brif ystafell ymolchi yn cynnwys bath gyda chawod dros y bath, toiled a basn golchi dwylo.
Tu allan
Yn y cefn mae gardd fechan gyda glaswellt ac ardal patio, ac mae wedi’i amgylchynu gan ffens bren. Mae sied yn yr ardd gefn.
Mae dreif yn y blaen gyda lle i 1/2 gar.
Mae lloriau wedi’u cynnwys yn y gegin, toiledau, a’r brif ystafell ymolchi yn yr adeiladau yma.
Gwres canolog nwy
System chwistrellu wedi’i gosod
Larymau mwg wedi’u gosod
Gwybodaeth arall
Byddwn yn caniatáu hyd at 2 anifail anwes gyda chaniatâd ymlaen llaw
Mae angen blaendal a mis cyntaf o rent cyn arwyddo’r ddogfen denantiaeth.
Isafswm incwm i'w ystyried (incwm o cyflogaeth a credydau threth) - £30,600.00
Rhent Misol - £765.00
Tal Gwasanaeth - N/A
Blaendal - Mae angen blaendal a mis cyntaf o rent cyn arwyddo’r ddogfen denantiaeth. Cyfanswm - £1,530.00
Eiddo ar gael Rhagfyr 2025 - Ionawr 2026
Contract Meddiannaeth Safonol
Meini Prawf Preswylio:
Caiff ymgeiswyr eu hystyried yn y drefn hon:
Blaenoriaeth 1 –Cysylltiad lleol â Dobshill e.e. byw a gweithio yn y gymuned am o leiaf 12 mis.
Blaenoriaeth 2 – Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i gymunedau cyfagos Bwcle, Penyffordd, Penymynydd and Drury.
Blaenoriaeth 3 – Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i Sir y Fflint cyfan.
EPC - B
Band Treth Y Cyngor - C
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk