Cyfryngau Cymdeithasol

14 Robins Court, Broughton, Flintshire

  • Shared Equity

Fflat 2 ystafell wely

  • Sir Fflint
  • 2 Ystafelloedd Gwely

* Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cysylltwch â ni drwy e-bost / ffôn neu chat drwy ein gwefan. Rhaid cyswllt gael ei wneud cyn dyddiad cau'r eiddo. *

Fflat 2 ystafell wely ar gael ar y Cynllun Rhan Ecwiti.

Mae'r eiddo hwn yn cynnwys mynedfa, cegin/ystafell bwyta ac Ystafell fyw; 2 ystafell wely ac ystafell ymolchi. Ffenestri UPVC a drysau gwydr dwbl; gwres canolog nwy (boeler cyfunol). Mae'r eiddo hwn ar gael gyda carpedi a lloriau drwy gydol ac yn cynnwys ardal parcio wedi ei neilltio.

Ystafell Fyw 3.25 x 4.16 (10’6” x 13’3”)

Cegin/Ystafell fwyta 2.57 x 2.79 (8’4” x 9’1”)

Ystafell wely 1 4.03 x 3.20 (13’2” x 10’4”)

Ystafell wely 2 4.03 x 2.03 (13’2” x 6’6”)

Ystafell Ymolchi

EPC - Wedi'i atodi

Band Treth y Cyngor - C

Leasehold - 999 o flynyddoedd yn weddill o 2016.

Pris Marchnad Agored - £160,000

70% Pris Fforddiadwy - £112,000

Tal Gwasanaeth - £181 yn flynyddol.

Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.

Gweler isod am Feini Prawf Preswyl Lleol

BLAENORIAETH 1 - 29/11/2024 - 24/01/2025 a) Ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton). b) Ymgeiswyr sydd eisioes wedi byw neu weithio yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton) am gyfnod o oleiaf 3 mlynedd ac eisiau dychwelyd neu c) Ymgeiswyr sydd wedi gweithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton). d) Ymgeiswyr sydd â cysylltiad lleol cryf i gymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton) drwy gael rhieni, brawd, chwaer, plentyn, teidiau a neiniau, wŷr neu wyres sydd yn byw yng nghymuned Brychdyn ac wedi byw yno ers lleiafswm o 3 mlynedd ddi-dor.

BLAENORIAETH 2 - 24/01/2025 - 21/03/2025 e) Ymgeiswyr sydd dan farn y Cyngor mewn angen o dai fforddiadwy a sydd wedi byw neu weithio o fewn Sir Fflint am oleiaf 3 mlynedd.

Ffioedd i Gyngor Sir y Fflint Bydd gofyn ichi lofnodi Arwystol Cyfreithiol sy'n ddogfen gyfreithiol isicrhau'r ecwiti 30%. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn codi ffi o £300 ar gyfer paratoi'r ddogfen hon.

Mae ffi asesu o £75.00

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 14 Robins Court, Broughton, Flintshire, CH4 0TQ
  • Cod Post: CH4 0TQ
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Ail werthiant

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£160,000 £112,000 Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English