Eiddo teras 2 lofft, 3-4 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 26.02.26 at 09:00
I ymgeisio am yr eiddo, cliciwch ar y linc yma 14 Hornbeam Close, Dobshill – Fill in form
Eiddo teras 2 lofft, 3-4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda North East Wales Homes
Llawr Gwaelod:
Wrth gerdded i mewn i’r adeilad, byddwch yn cerdded i mewn i’r cyntedd sydd yn cynnwys y grisiau yn syth o’ch blaen i fyny i’r llawr cyntaf, a drws ar y dde i fynd mewn i’r ystafell fyw.
Mae’r ystafell fyw yn nhy blaen y tŷ gyda’r gegin yn y cefn.
Yn y gegin, mae ystafell gawod sy’n cynnwys; toiled, basn golchi dwylo a chawod. Mae drws cefn yn y gegin sydd yn arwain drwodd i’r ardd a giât i’r fynedfa gefn.
Llawr Cyntaf:
O’r grisiau yn y cyntedd, fe fyddwch chi’n cerdded i fyny i ben y grisiau.
I fyny’r grisiau, mae gennych chi 2 ystafell wely dwbl ac ystafell ymolchi.
Mae’r brif ystafell ymolchi yn cynnwys bath gyda chawod dros y bath, toiled a basn golchi dwylo.
Tu allan:
Yn y cefn mae gardd fechan gyda glaswellt ac ardal patio, ac mae wedi’i amgylchynu gan ffens bren.
Mae sied yn yr ardd gefn.
Mae dreif yn y blaen gyda lle i 1/2 gar.
Lloriau a nodweddion eraill:
Mae lloriau wedi’u cynnwys yn y gegin, toiledau, a’r brif ystafell ymolchi yn yr adeiladau yma.
Gwres canolog nwy
System chwistrellu wedi’i gosod
Larymau mwg wedi’u gosod
Gwybodaeth arall:
Byddwn yn caniatáu hyd at 2 anifail anwes gyda chaniatâd ymlaen llaw
Mae angen blaendal a mis cyntaf o rent cyn arwyddo’r ddogfen denantiaeth.
Dim faniau campio
Rhent Misol - £810.00
Blaendal - £810.00
Isafswm incwm i'ch ystyried ar gyfer yr eiddo (incwm gweithio a chredyd treth) - £32,400.00
Meini Prawf Preswylio:
Blaenoriaeth 1 – Cysylltiad lleol â Dobshill e.e. byw a gweithio yn y gymuned am o leiaf 12 mis.
Blaenoriaeth 2 – Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i gymunedau cyfagos Bwcle, Penyffordd, Penymynydd and Drury.
Blaenoriaeth 3 – Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i Sir y Fflint cyfan.
Tenantiaeth - Contract Meddiannaeth Safonol
EPC - B
Band Treth y Cyngor - C
Eiddo'n barod - I'w gadarnhau
Noder: Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £810.00 | £810.00 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk