Cyfryngau Cymdeithasol

14 Erwau’r Coleg, Llangefni

Tŷ pâr gyda dreif, 2 ystafell wely, 4 person

  • Ynys Môn
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 11.08.26 at 12:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 14 Erwau’r Coleg, Llangefni – Fill out form

Tŷ pâr gyda dreif, Dwy ystafell wely, pedwar person ar gael drwy'r Cynllun Rhentu Canolraddol gyda Clwyd Alyn.

Mae'r eiddo yn cynnwys ystafell fyw, cegin, ystafell gawod/toiled ar y llawr gwaelod, 2 ystafell wely ac ystafell ymolchi deuluol.

Mae'n cynnwys system wresogi carbon isel (pwmp gwres ffynhonnell aer), lloriau drwyddi draw, gardd a pharcio preifat.

Rydym yn derbyn anifeiliaid anwes. Bydd angen llenwi ffurflen ganiatâd ar gyfer anifail anwes cyn derbyn y denantiaeth.

Carpedi a lloriau yn cael ei gynnwys yn yr eiddo.


Rhent Misol - £764.52

Tal Gwasanaeth - £4.78 y mis

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £30,772 - (incwm trwy gyflogaeth a budd-daliadau)

Blaendal - £1,538.60

Eiddo ar gael Awst 2026


Meini Prawf Preswylio -

Blaenoriaeth 1: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) â Chaergybi.

Blaenoriaeth 2: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) â'r cymunedau cyfagos.

Blaenoriaeth 3: Rhaid bod â chysylltiad lleol o leiaf 12 mis (yn byw, yn gweithio, wedi byw neu weithio'n flaenorol, neu deulu agos) ag Ynys Môn.


EPC - A

Band Treth Y Cyngor - C

Bydd angen gwirio credyd a fforddiadwyaeth


Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.


Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 14 Erwau'r Coleg, Llangefni LL77 7AY, UK
  • Cod Post: LL77 7AY
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
N/A £769.30 £1,538.60

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English