2 Tŷ pâr 2 ystafell wely, 4 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 17.09.25 at 12:30
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma https://forms.office.com/e/0MD...
2 Tŷ pâr 2 ystafell wely, 4 person ar gael trwy'r Cynllun Rhent Canolraddol hefo Cyngor Mon.
Tai semi wedi eu lleoli ar stad breifat newydd o dros 100 o dai yn Llangefni. Llawr gwaelod yn cynnwys ystafell fyw, cegin ac ystafell gawod. Llawr cyntaf yn cynnwys 2 lofft ac ystafell molchi. Mae’r tai wedi eu hadeiladu i EPC B efo system gwresogi nwy. Y tu allan 2 x lle parcio a gardd breifat i’r cefn efo patio a shed.
Rhent - £131.76 yr wythnos
Tal Gwasanaeth - I'w benderfynnu
Blaendal - Wythnos o rent o flaen llaw
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy - £22,838.40
Band Treth Y Cyngor - I'w ddilyn
EPC - I'w ddilyn
Caniatau anifeiliaid anwes
Eiddo yn barod Rhagfryr 2025 / Ionawr 2026
Meini Prawf Preswylio:
Blaenoriaeth 1 - Ymgeiswyr sydd â phreswyliad 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned lle mae'r eiddo sydd i'w ddyrannu wedi’i leoli.
Blaenoriaeth 2 - Ymgeiswyr sydd â phreswyliad 5 mlynedd neu fwy yn un o ardaloedd y Cynghorau Cymuned sy'n ffinio ag ardal y Cyngor Cymuned lle mae'r eiddo sydd i'w ddyrannu wedi’i leoli.
Blaenoriaeth 3 - Ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio yn Ynys Môn am gyfnod o 5 mlynedd.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£131.76 yr wythnos | Wythnos o rent o flaen llaw |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk