Tŷ pâr 3 Lloft, 5 Person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 19.06.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma, 11 Llwybr Y Gynt, Penrhosgarnedd, Bangor – Fill out form *
Eiddo 3 ystafell wely, 5 person ar gael ar y cynllun Rhent Canolraddol gan Cartrefi Conwy.
Mae’r tŷ tair ystafell wely yng nghanol teras, sydd newydd ei adeiladu ac wedi’i leoli ar ddatblygiad dymunol Goetre Uchaf ym Mangor. Mae’r eiddo yn cynnwys cyntedd a chegin yn arwain ohono, tŷ bach i lawr y grisiau ac ystafell fyw gyda drysau patio yn arwain i’r ardd gefn. I fyny’r grisiau mae 3 ystafell wely gydag en suite gyda’r brif ystafell wely ac ystafell ymolchi deuluol. Mae'r eiddo wedi eu lleoli’n agos i Ysbyty Gwynedd.
Rhent Misol: £863.12
Bydd angen mis o rent flaen llaw, a mis o rent fel blandal ar gychwyn y denantiaeth = £1,340
Lleifafswm incwm i gael eich cysidro (incwm gwaith a Tax credits) - £35,524.80pa
Meini Prawf Preswylio-
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw neu weithio yn siroedd Gwynedd, Conwy neu Ynys Mon am gyfnod di-dor o 2 flynedd yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu yn y gorffennol.
Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o'r siroedd uchod, yna fe wnawn ystyried ceisiadau o siroedd Dinbych a Flint.
Hyd at 1 anifail gyda caniatad blaeorol.
Tax band C
EPC B
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| d/b | £863.12 | £863.12 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk