Ty Par 2 ystafell wely 4 person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 11.06.26 at 12:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 11 Garden Village, Saltney – Fill out form *
Wedi’i leoli wrth ymyl pentref hyfryd Llaneurgain, mae’r eiddo modern 2 ystafell wely hwn yn cynnig popeth. O ddreif i ardd hyfryd i en-suite.
Llawr Gwaelod
Wrth gerdded i mewn i’r eiddo, byddwch yn cerdded i mewn i’r cyntedd sydd yn cynnwys y grisiau yn syth o’ch blaen i fyny i’r llawr cyntaf, a drws ar y iawn i fynd mewn i’r ystafell fyw. Mae’r ystafell fyw ym mlaen y tŷ gyda drws i fynd drwodd i’r gegin yn y cefn. Yn y gegin, mae yna doiled a drysau patio sydd yn arwain allan i’r ardd gyda glaswellt.
Mae’r gegin yn yr eiddo hefyd yn cynnwys popty a hob.
Llawr Cyntaf
O’r grisiau yn y cyntedd, fe fyddwch chi’n cerdded i fyny i ben y grisiau. I fyny’r grisiau, mae gennych chi 2 ystafell wely ac ystafell ymolchi.
Mae’r brif ystafell wely yn cynnwys en-suite gyda chawod, toiled a basn golchi dwylo.
Mae’r brif ystafell ymolchi yn cynnwys bath gyda chawod dros y bath, toiled a basn golchi dwylo.
Tu allan
Yn y cefn mae gardd gyda glaswellt, ac mae wedi’i amgylchynu gan ffens bren.
Mae dreif ar yr blaen ym mlaen yr eiddo er mwyn gallu parcio oddi ar y stryd.
Rhent Misol - £810.00
Blaendal- £810.00
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro- £32,400
Blaenoriaeth 1
Cysylltiad lleol â Saltney e.e. byw a gweithio yn y gymuned am o leiaf 12 mis.
Blaenoriaeth 2
Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i gymunedau cyfagos Brychdyn, Higher Kinnerton, Sandycroft, Mancot a Phenarlâg.
Blaenoriaeth 3
Os na ddoir o hyd i ddeiliaid addas fel uchod, caiff y meini prawf lleol ei ymestyn i Sir y Fflint cyfan.
EPC - B
Band Cyngor Treth- C
Aneifeiliad Anwes: 2 efo caniatad yr perchenog.
Ddim Carafans ar dreif peifat
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| N/A | £810.00 | £1,620.00 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk