Fflat llawr gwaelod dwy ystafell wely ar gael ar y cynllun rhan ecwiti.
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 107 Lamberton Drive, Brymbo, Wrexham – Fill in form
Fflat llawr gwaelod dwy ystafell wely ar gael ar y cynllun rhan ecwiti.
Fflat dau ystafell wely ar lawr gwaelod, wedi ei gadw'n dda, gyda gwres canolog nwy a ffenestri dwbl UPVC, yn ogystal â dau le parcio neilltuedig. Mae'n cynnwys: Cyntedd, Ystafell Fyw/Bwyta, Cegin, dau ystafell wely (y prif un gyda en-suite), ac ystafell ymolchi ychwanegol.
Pris Marchnad agored: £115,000
70% pris fforddiadwy £80,500
Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.
Tal Gwasanaeth: £500 y flwyddyn
Leasehold: tua 980 mlynedd yn weddill
EPC - C
Band Treth y Cyngor - B
Blaenoriaeth 1 a) – 20/08/2026 - 15/10/2026
1. wedi byw yn ardaloedd cymunedol Brychdyn a Choedpoeth am gyfnod parhaus o flwyddyn yn union cyn meddiannaeth arfaethedig yr eiddo; Neu
2. mewn cyflogaeth llawn amser barhaol heb fod yn llai na thri deg awr yr wythnos o fewn ardaloedd Cymuned Brychdyn a Choedpoeth, a'i bod wedi bod mewn cyflogaeth o'r fath am gyfnod o chwe mis yn union cyn meddiannaeth arfaethedig yr eiddo; Neu
3. wedi bod yn byw yn ardaloedd Cymuned Brychdyn a Choedpoeth neu wedi bod mewn gwaith llawn amser parhaus fel y disgrifiwyd uchod am gyfnod parhaus o bum mlynedd; neu sydd â chysylltiad lleol cryf, oherwydd bod perthynas agos yn preswylio yn y cymunedau a enwir am un flwyddyn (perthynas agos – priod, rhiant, brawd, chwaer, plentyn).
Mae ardal Cymuned Brychdyn a Choed-poeth yn cynnwys wardiau Brymbo, Bryn Cefn, Coedpoeth, Gwenfro, y Mwynglawdd a Brychdwn newydd
Blaenoriaeth 2 b) – 15/10/2026 - 12/11/2026
Os na fydd unrhyw brynwr arfaethedig yn cael ei nodi, cymwysterau fel y nodir yn 1), 2) a 3) Mae'r meini prawf preswylio lleol yn cael eu hagor i holl Sir Wrecsam.
Blaenoriaeth 3 c) – 12/11/2026 - 10/12/2026
Os na fydd unrhyw brynwr arfaethedig yn cael ei nodi â chysylltiad â Sir Wrecsam, yna bydd y meini prawf preswylio lleol yn cael eu hagor i unrhyw un arall yr ystyrir bod angen tai fforddiadwy arnynt.
Byddwn yn gofyn am ffi asesu o £75.00, tuag at costau gweinyddu’r asesiad. Bydd y ffi hefyd yn cadw’r eiddo i chi tra ‘rydym yn cynnal y profion angenrheidiol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £115,000 | £80,500 | Isafswm blaendal o 5% yn dibynnu ar fenthyciwr |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk