Cyfryngau Cymdeithasol

10 Rhodfa Coed Teg, Gwersyllt

Fflat llawr cyntaf 2 ystafell wely 3 person

  • Wrecsam
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 28.08.26 at 09:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 10 Rhodfa Coed Teg, Gwersyllt – Fill out form

Fflat llawr cyntaf 2 ystafell wely 3 person ar gael drwy y Cynllun Rhent Canolraddol gyda Grwp Cynefin.

Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw /cegin agored, 2 lofft, ymolchfa.

  • Gwres canolog trydan
  • Ffenestri gwydr dwbl UPVC
  • Ardal parcio wedi ei neilltuo i 2 gar

Cyntedd Cymunedol

  • Bocsys llythrau cloedig
  • Drysau i bob fflat
  • Goleuadau cymunedol, dim gwresogi
  • Grisiau i’r llawr cyntaf

Bydd Grwp Cynefin yn darparu lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiaru, a carpedi/gorchyddion yn yr ystafelloedd eraill.

Rhent misol = £564.83

Tal Gwasanaeth - £75.17

Blaendal - Bydd angen i chi dalu un mis rhent a blaendal oflaen llaw, sef £1,280

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy - £25,600

Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.

Meini Prawf Preswylio-

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw neu weithio yn ardal cymuned Gwersyllt am gyfnod di-dor o 1 mlynedd yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu yn gweithio dros 30 awr yr wythnos yn Ngwersyllt am 6 mis, neu wedi byw yno yn flaenorol am gyfnod o 5 mlynedd, neu gyda teulu agos sydd wedi byw yn Ngwersyllt am dros 5 mlynedd.

Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o Gwersyllt, yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymedau Llay, Gresford, Acton, Rhosddu, Broughton, Brymbo and Offa, Coedpoeth, New Broughton, Brynffynnon, Grosvenor ag Esclusham cyn agor allan i Sir Wrecsam.

EPC - Wedi atodi isod

Band Treth Y Cyngor - C

Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr.

Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.

Anifeiiliaid anwes - I'w drafod gyda'r landlord

Eiddo ar gael Gorffennaf 2026

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 10 Rhodfa Coed Teg, Gwersyllt, Sir Wrecsam. LL11 4DE
  • Cod Post: LL11 4DE
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
N/A £640 £1,280

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English