Tŷ Terras, 2 ystafell wely, 4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhentu Canolraddol gyda Adra
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 23.01.26 at 09:00
*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 20 Heol yr Orsaf, Llan Ffestiniog – Fill out form
Tŷ Terras, 2 ystafell wely, 4 person
* Mae'r cartref yma'n rhan o Gynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd i brynu tai ledled y sir i'w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy.
Mae'r eiddo'n cynnwys, lolfa, cegin ac ystafell fwyta agored, 2 lofft, study ac ymolchfa
Gwres Canolog Nwy a ffenestri a drysau gwydr dwbl
Mae'r eiddo'n cynnwys carpedi a gorchudd llawr ymhob ystafell
Gerddi tu cefn
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond
heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
• Cyfyngiadau ar barcio
• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
• Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
• Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir gan y Datblygwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.
Rhent Misol - £600
Blaendal - £600
1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,200
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau) - £24,000
EPC - C
Band Treth y Cyngor - B
Anifeiliaid Anwes - Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth.
Eiddo yn barod - Chwefror 2026
Meini Prawf Preswylio:
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy yn ardal y Cyngor Cymuned Leol lle mae’r eiddo (Ffestiniog).
Os na fydd ymgeiswyr addas yn cyrraedd yr meini prawf preswylio, bydd ceisiadau gan ymgeiswyr eraill yn cael eu hystyried yn y drefn isod:
1. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd (fel sy’n cael ei ddiffinio ym mholisi Cofrestr Tai Cyffredinol Gwynedd – 2019) ac wedi byw yn ardal y Cyngor Cymuned Lleol (Ffestiniog) am lai na 5 mlynedd.
2. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd ac wedi byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd
3. Ymgeiswyr â chysylltiad i Wynedd a wedi byw yng Ngwynedd ers 12 mis
Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
| Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
|---|---|---|
| £600 | £600 |
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk