Cyfryngau Cymdeithasol

1 Ffordd Pedrog, Oakenholt

Tŷ pen terras 3 ystafell wely, 4 person

  • Sir Fflint
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 12.11.25 at 09:15

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma 1 Ffordd Pedrog, Oakenholt, Sir y Fflint/ Flintshire – Fill out form

Tŷ terras 3 ystafell wely, 4 person ar gael drwy y cynllun Rhent Canolraddol gyda Grwp Cynefin.

Mae’r eiddo’n cynnwys ystafell fyw, cegin, toiled lawr grisiau, 3 llofft, ac ymolchfa.

Gwres canolog nwy

Ffenestri gwydr dwbl UPVC

Gardd I gefn yr eiddo

Ardal parcio wedi ei neilltuo

Bydd Grwp Cynefin yn darparu lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiaru.

Isafswm incwm i'w ystyried (incwm o cyflogaeth a credydau threth) - £32,068.80

Rhent Misol - £767.27

Tal Gwasanaeth - £34.45 y mis

Blaendal - Bydd angen i chi dalu rhent mis a blaendal ymlaen llaw, sef £1,603.44

Eiddo ar gael Rhagfyr 2025

Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.

Meini Prawf Preswylio:

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod -

  • yn byw neu weithio yn ardal cymuned Oakenholt am gyfnod di-dor o 1 mlynedd yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu wedi byw neu weithio yn ardal cymuned Oakenholt am gyfnod o 1 mlynedd yn y gorffennol.
  • Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o Oakenholt yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymuned Fflint cyn agor allan i Sir y Fflint.

EPC - B

Band Treth Y Cyngor - C

Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr.

Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.

Anifeiliaid anwes - Hyd at 2

Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.


Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 1 Ffordd Pedrog, Oakenholt, Flint, Sir y Fflint CH6 5WG, UK
  • Cod Post: CH6 5WG
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English