Cyfryngau Cymdeithasol

Plot 12, 13, 14, 15, 16, 17, 27 Ddôl Dderwen, Gwernafield Road, Mold

Eiddo par 3 llofft, 4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Adra

  • Sir Fflint
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 30.07.26 at 09:00

*Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cliciwch y ddolen yma Plot 12, 13, 14, 15, 16, 17, 27 Ddôl Dderwen, Gwernafield Road, Mold – Fill in form

Eiddo par 3 llofft, 4 person ar gael drwy'r Cynllun Rhent Canolraddol gyda Adra

Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, ystafell wlyb lawr grisiau, 3 llofft, ac ymolchfa

Bydd gan bob eiddo y canlynol:

Ffenesti gwydr dwbl a drysau Ffrengig yn agor i’r ardd

Cegin ac ystafelloedd ymolchi modern

Gardd flaen a chefn gyda gwair

Boiler Nwy

Gardd gefn ddiogel

Dreif breifat

Ystafell fyw / Cegin - 4.89m x 4.71m

Ystafell wely 1 – 3.34m x 4.89m

Ystafell wely 2 – 2.62m x 3.05m

Ystafell wely 3 - 3.76m x 2.18m

Carpedi / lloriau yn mhob ystafell

EPC - B

Cyngor Treth - I'w gadarnhau

Rhent Misol - £817.36 y mis ( Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg)

Tal Gwasanaeth - £13.20 yn fisol yn ychwanegol ir rhent

Blaendal - 1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth yn ogystal ar rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Cyfanswm = £1,647.92

Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro - £33,220

Math o denantiaeth - Mae’r denantiaeth yn Contract meddianaeth safonol misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r denantiaeth, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir

Anifeiliaid - Yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth

Eiddo ar Gael - Diwedd Medi 2026

Meini Prawf Preswylio -

Bydd gan unigolyn “Gysylltiad Lleol” os yw’n:

  • (a)Wedi bod, yn union cyn cael ei asesu, yn preswylio’n barhaus am 3 blynedd yn y Gymuned; neu
  • (b)Wedi bod, yn union cyn cael ei asesu, yn gyflogedig yn barhaus am dair blynedd yn y Gymuned; neu
  • (c)Yn meddu ar gysylltiadau lleol cryf â’r Gymuned oherwydd bod ganddo/ganddi briod, rhiant, brawd, chwaer, plentyn, nain neu daid, neu ŵyr neu wyres sy’n preswylio yn y Gymuned ac sydd wedi preswylio yno am o leiaf dair blynedd barhaus.

Cymuned – Ardal Cyngor Cymuned Yr Wyddgrug lle mae’r tir wedi’i leoli

Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:

  • Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
  • Cyfyngiadau ar barcio
  • Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
  • Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
  • Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
  • Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
  • Rhwymedigaethau'n ymwneud â Charthffosydd a Gwasanaethau Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
  • Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
  • Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
  • Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
  • Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir gan y Datblygwr.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.

Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: CH7 8BA
  • Cod Post: CH7 8BA
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Eiddo Newydd

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English