Fflat llawr gwaelod 1 llofft 2 berson gyda mynediad annibynol ar gael
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 11.07.22 at 23:45
Fflat llawr gwaelod 1 llofft 2 berson gyda mynediad annibynol ar gael dryw'r cynllun rhent canolraddol gyda Adra
Rhent Misol:£399.49 a tal gwasanaeth o £11.44 a month. Rhaid ei dalu yn fidol ymlaen llawn drwy debyd uniongyrchol.
1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Blaendal = £399.48
Lleiafswm incwm i gael eich cysidro ar gyfer yr eiddo yw: £16,437.20
Barod i osod: Awst 2022
Blaenoriaeth 1 – (13/06/2022 - 11/07/2022) Preswylio / neu deulu agos – Ardal Cyngor Cymuned Llay – Un blwyddyn cyn daliadaeth neu mewn cyflogaeth llawn amser o fewn ardal Cyngor Cymuned Llay am gyfnod o 6 mis cyn y daliadaeth arfaethedig. Preswylio blaenorol / neu deulu agos - Ardal Cyngor Cymuned Llay – cyfnod o 5 mlynedd di-dor neu cyflogaeth blaenorol o fewn Ardal Cyngor Cymuned Llay am gyfnod o 5 mlynedd
Priority 2 - (12/07/2022 - 09/08/2022) Os nad oes unigolyn yn cyrraedd y gofynion uchod gan Tai Teg ayb ac ar ôl hysbysu / masnacha mewn papur newydd yn ardal Wrecsam am o leiaf 4 wythnos - Fel yr uchod – ond ar gyfer - Gwersyllt, Rosset ac Ardal Cyngor Cymmuned Gresford. (i gynnwys marchnata ychwanegol ayb).
Priority 3 - (10/08/2022 - 07/09/2022) Os nad oes blaenoriaeth 1 na blaenoriaeth 2 – ar ôl 8 wythnos – agor i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Priority 4 – (07/09/2022) Os nad oes ymgeisydd yn cymhwyso yn blaenoriaeth 3 o fewn 12 wythnos – yna, bydd unrhyw berson, yn barn Adra neu’r Cyngor sydd a Angen Tai yn cael ei drin fel person cymwys.
Mae’r eiddo’n cynnwys lolfa /cegin/ystafell fwyta, ystafell gotiau lawr grisiau, 1 llofft ac ymolchfa.
Gwres canolog nwy
Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
Ardal ar gyfer parcio 1 car oddi ar y ffordd
Llofft 1: 3.92m x 3.15m
Mae’r denantiaeth yn Denantiaeth Aswiriedig Byrddaliol 6 mis,fydd wedyn yn parhau ar sail misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r denantiaeth, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
EPC: B
Band Treth Cyngor: I'w gadarnhau
Rydym yn caniatau anifeiliaid anwes yn unol a’r amodau o fewn y cytundeb tenantiaeth.
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
• Cyfyngiadau ar barcio
• Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
• Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy'n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
• Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
• Rhwymedigaethau'n ymwneud â Charthffosydd a Gwasanaethau Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
• Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
• Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
• Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
• Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y'u gosodir gan y Datblygwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw'r rhestr uchod yn derfynol ac mae'n destun newid.
Bydd copi papur yn rhestru'r Cyfamodau perthnasol ar gael wrth arwyddo, ond gellir darparu copïau cyn hyn ar gais.
Rydym yn cadw'r hawl i ddod a'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir digon o ymgeiswyr.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£410.93 | £399.49 |
Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk