Ar gael i rentu 2x Fflat/Sdiwdio
Fflat Un Ystafell Wely / Stiwdio mewn datblygiad newydd wedi'i lleoli ar y Stryd Fawr yn Ninas Bangor.
1 Llofft, 2 berson ar y mwyafrif ond yn fwy addas ar gyfer person sengl |
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 31.01.21 at 17:00
Fflat Un Ystafell Wely / Stiwdio mewn datblygiad newydd wedi'i lleoli ar y Stryd Fawr yn Ninas Bangor yn cynnig mynediad hawdd i'r siopau, archfarchnadoedd a'r holl fwynderau lleol eraill sydd gan Fangor i'w gynnig. Mae’r eiddo wedi ei gwblhau i safon uchel ac yn cynnig yn gryno:-Ystafell Wely Dwbl, ystafell gawod en-suite gyda thoiled a sinc. Lolfa a chegin cynllun agored gydag offer (oergell/rhewgell dan gownter, popty a hob) Mae'r eiddo'n elwa o olchdy cymunedol. Gwresogyddion darfudiad trydan modern a ffenestri gwydr dwbl. Tra fod y denantiaeth yn un fyrddaliol sicr am gyfnod o 6 mis, mi fydd wedyn yn parhau ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r denantiaeth, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.Dim ysmygwyr, myfyrwyr nag anifeiliad anwes. Dim cyflesterau parcio Mae'r eiddo'n agored i ymgeiswyr o Wynedd. |
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£366.00 | £366.00 |
Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk