Tŷ Pâr 3 Llofft
Tŷ Pâr 3 llofft ar werth trwy'r Cynllun Rhan Ecwiti.
Mae'r eiddo'n cynnwys; Cyntedd i'r lolfa, cegin/ystafell fwta. I'r llawr cyntaf mae tair ystafell wely, dwy ohonynt yn ddwbl ac yn ystafell ymolchi deuluol. Y tu allan mae gardd lawnt i'r cefn, man parcio i'r blaen gyda pharcio ar gyfer dau gar.
Pris fforddiadwy 70% ar £ 147,000
Angen blaendal o 5%
Deliaeth yr eiddo yw Rhydd-daliad
Gweler isod am Feini Prawf Preswyl Lleol
Blaenoriaeth 1 - 17/02/2021 - 14/04/2021
a) Ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton). b) Ymgeiswyr sydd eisioes wedi byw neu weithio yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton) am gyfnod o oleiaf 3 mlynedd ac eisiau dychwelyd neu c) Ymgeiswyr sydd wedi gweithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yng nghymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton). d) Ymgeiswyr sydd â cysylltiad lleol cryf i gymuned Brychdyn (Brychdyn a dwyrain Bretton, Brychdyn a gogledd Bretton, Brychdyn a de Bretton) drwy gael rhieni, brawd, chwaer, plentyn, teidiau a neiniau, wŷr neu wyres sydd yn byw yng nghymuned Brychdyn ac wedi byw yno ers lleiafswm o 3 mlynedd ddi-dor.
Blaenoriaeth 2 - 15/04/2021 - 09/06/2021
e) Ymgeiswyr sydd dan farn y Cyngor mewn angen o dai fforddiadwy a sydd wedi byw neu weithio o fewn Sir Fflint am oleiaf 3 mlynedd.
Byddwn yn gofyn am ffi asesu o £75.00, tuag at costau gweinyddu’r asesiad. Bydd y ffi hefyd yn cadw’r eiddo i chi tra ‘rydym yn cynnal y profion angenrheidiol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ffioedd i Gyngor Sir y Fflint Bydd gofyn ichi lofnodi Arwystol Cyfreithiol sy'n ddogfen gyfreithiol isicrhau'r ecwiti 30%. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn codi ffi o £300 ar gyfer paratoi'r ddogfen hon.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£210,000 | £147,000 | Isafswm 5% |
Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk