Ty Par 3 lloft/5 Person
Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 10.06.26 at 12:00
*Os hoffech ymgesio am yr eiddo yma cliciwch ar y linc yma 7 Llain Westbury, Caergybi – Fill out form *
Mae’r eiddo’n cynnwys Ystafell fyw, cegin/ystafell fwyta, ystafell gawod , 3 llofft, ac ymolchfa
Bydd Grwp Cynefin yn darparu lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiau, a charpedi yn yr ystafelloedd eraill.
Rhent misol - £665.16 yn cynnwys Tal Gwasanaeth
Blaendal - Mis o rent £665.16 + mis o flaendal £665.16 = £1330.32
Lleiafswm incwm cartref i gael eich cysidro ydy £26,610.00 - (incwm trwy gyflogaeth / budd-daliadau)
Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Diffinir PERSON LLEOL fel rhywun sydd wedi cel ei gartref neu ei le gwaith yn Ynys Mon am gyfnod o 5 mlynedd neu fwy. (Gellir cyfuno’r cyfnod o 5 mlynedd yn rhannol drwy fyw ac yn rhannol trwy weithio yn Ynys Mon).
Band Treth Y Cyngor: C
EPC: C
Canitad hyd at 2 anifieliad anwes
Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr.
Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk