5 Colliers Way, Buckley

  • Shared Equity

Ty Canol Teras 2 lofft

  • Sir Fflint
  • 2 Ystafelloedd Gwely

Tŷ Canol Teras 2 lofft ar gael ar werth drwy'r Cynllun Rhan Ecwiti.

Pris fforddiadwy 70% yw £128,100

Mae'r eiddo'n cynnwys cyntedd i'r mynediad gyda storfa, cegin, ystafell gotiau/wc, lolfa gyda drysau llithro i'r ardd gefn, 2 ystafell wely a'r ystafell ymolchi. Mae'r eiddo'n elwa o wres canolog nwy, ffenestri gwydr dwbl drwy'r cyfan a chysylltiad rhyngrwyd FTTP (ffibr i'r safle). Y tu allan mae dau le parcio wedi'u dyrannu o flaen yr eiddo a gwaith cynnal a chadw isel. Gardd gefn gyda phatio a thyrf artiffisial.

The property is freehold.

Meini Prawf Cysylltiad Lleol

Mi fydd rhaid i chi gyfarfod y meini prawf cysylltiad lleol ar gyfer cartrefi fforddiadwy gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i:

Blaenoriaeth 1 - 12/01/2022 - 09/03/2022
Wedi byw neu weithio am 3 mlynedd ddi-dor cyn meddiant yr eiddo fforddiadwy yn cymuned Bwcle, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i brynwr o ward Bwcle Pentrobin, wedyn yn agor allan i ward Bwcle Gorllewin Bistre, Bwcle Dwyrain Bistre a Mynydd Bwcle neu gyda chysylltiad lleol cryf i’r ward drwy gael rhieni, brawd, chwaer, plentyn, teidiau a neiniau, wŷr neu wyres sydd yn byw yn y Ward ac wedi byw yno ers lleiafswm o 3 mlynedd ddi-dor.

Blaenoriaeth 2 - 10/03/2022 - 06/04/2022
Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir yn Flaenoriaeth 1, bydd y meini prawf yn ymestyn i Llaneurgain, Northop Hall, Ewlo, Penarlag, Penyffordd, Coed Llai, Argoed a New Brighton.

Blaenoriaeth 3 - 07/04/2022 - 04/05/2022
Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1 a 2 bydd anghenion preswyl a gwaith yn ymestyn i Sir y Fflint yn gyfan, gydag amser cymhwyso yn lleihau o 3 mlynedd i 2 mlynedd.

Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir ym Mlaenoriaeth 1, 2 a 3 bydd anghenion preswyl yn ymestyn i gynnwys Siroedd Dinbych a Wrecsam gydag amser cymhwyso yn lleihau o 2 mlynedd i 12 mis.

Bydd angen £75.00 ffi asesu arnom i dalu am ein costau gweinyddol ar gyfer yr asesiad. Bydd y ffi hon hefyd yn cadw'r eiddo i chi wrth i ni gynnal y gwiriadau angenrheidiol.


Ni ellir ad-dalu'r ffi hon. i Gyngor Sir y Fflint Bydd gofyn ichi lofnodi Arwystol Cyfreithiol sy'n ddogfen gyfreithiol isicrhau'r ecwiti 30%. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn codi ffi o £300 ar gyfer paratoi'r ddogfen hon.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: CH7 3DP
  • Cod Post: CH7 3DP
  • Ystafelloedd Gwely: 2
  • Math o Eiddo: Ail werthiant

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£165,000 £115,500 Isafswm 5%

Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.

Arbed i'r rhestr fer

Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Cofrestu â Tai Teg

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English