Fflat Llawr Cyntaf 2 Lofft
Eiddo fflat llawr cyntaf 2 Lofft gael trwy Grŵp Cynefin ar y Cynllun Rhan Ecwiti
Mae'r eiddo'n cynnwys ystafell fyw, cegin/ystafell fwyta, dwy ystafell wely, ystafell ymolchi deuluol a chwpwrdd storio. Gwres Canolog Nwy, Ffenestri Dwbl UPVC a drysau. Cynigir carpedi a lloriau i'r eiddo hwn drwyddo draw. Parcio wedi'i ddyrannu.
70% pris fforddiadwy £66,500 - Isafswm blaendal o 5% o'r pris marchnad agored,
Eiddo Prydles - Rhent Blynyddol a Thâl Gwasanaeth oddeutu £80.40 y mis a Rhent Tir o £125 y flwyddyn.
Mi fydd rhaid i chi gyfarfod y meini prawf cysylltiad lleol ar gyfer cartrefi fforddiadwy gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i:
Blaenoriaeth 1 - 13/04/2021 - 11/05/2021
• Wedi byw neu fod â chysylltiad teulu agos yn Ward Brynffynnon am 1 mlynedd cyn y dyddiad cwblhau, neu
• Bod mewn gwaith llawn amser parhaol (o leiaf 30 awr yr wythnos) yn Ward Brynffynnon am 6 mis cyn y dyddiad cwblhau, neu
• Wedi byw yn flaenorol a bod ganddynt gysylltiad teuluol agos yn Ward Brynffynnon am gyfnod am 5 mlynedd ddi-dor.
Blaenoriaeth 2 - 12/05/2021 - 08/06/2021
• Fel uchod, gan gynnwys ardal Gymunedol Esclusham, Offa, Grosvenor, New Broughton a Choedpoeth.
Blaenoriaeth 3 & 4 - 09/06/2021 - 06/07/2021
• Os nad oes Person Dynodedig wedi ei adnabod fel y nodir yn Blaenoriaeth 1 neu 2, bydd y meini prawf yn ymestyn i pobl cymwys o Wardiau Tref Acton, Parc Borras, Erddig, Garden Village, Hermitage, Little Acton, Maesydre, Queensway, Rhosnesni, Smithfield, Stannsty, Whitegate a Wynnstay.
• Os nad oes person dynodedig fel y nodwyd uchod, yna rhaid trin unrhyw berson sydd mewn angen Tai Fforddiadwy fel Person Cymwys.
Byddwn yn gofyn am ffi asesu o £75.00, tuag at costau gweinyddu’r asesiad. Bydd y ffi hefyd yn cadw’r eiddo i chi tra ‘rydym yn cynnal y profion angenrheidiol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£95,000 | £66,500 | Isafswm 5% |
Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk