Tŷ Canol Teras 2 Lofft
Tŷ Canol Teras 2 Lofft ar gael ar y Cynllun Ecwiti a Rennir 70%
Pris fforddiadwy ar £120,750
Angen blaendal o 5%
Mae'r eiddo'n cynnwys cyntedd, cegin, lolfa/toiled i lawr y grisiau, 2 ystafell wely ddwbl ac ystafell ymolchi. Cynnal a chadw isel yn yr ardd flaen ar cefn. Man Parcio.
Gweler isod am Feini Prawf Preswyl Lleol
Blaenoriaeth 1:14/08/2020-08/10/2020 a) bod wedi byw neu weithio yng Nghymuned Llaneurgain yn barhaus ers 3 blynedd, neu fod â chysylltiad lleol cryf â'r gymuned fel rhiant, brawd, chwaer, plentyn, taid neu nain neu ŵyr neu wyres sy'n byw yn y gymuned ac sydd wedi bod yn preswylio yno am o leiaf dair blynedd ddi-dor. Wedi hynny, rhoddir blaenoriaeth i:
Blaenoriaeth 2:09/10/2020-05/11/2020 b) fel uchod ond gan agor allan i gymunedau cyfagos Pentre Catheral, Mynydd Bwcle, Oakenholt y Fflint, Trelawny y Fflint (yn ymgorffori Mynydd y Fflint), New Brighton (yn ymgorffori Sychdyn a rhan o Alltami, Allami yw o fewn Cyngor Tref Bwcle), Cymuned Helygain (sy'n ymgorffori Rhosesmor), a dwyrain yr Wyddgrug
Blaenoriaeth 3-06/11/2020-03/12/2020 Pe na bai unrhyw brynwr arfaethedig yn cael ei nodi, cymwysterau fel y nodir yn a), a b) bod y meini prawf preswylio lleol yn cael eu hagor i Sir y Fflint gyfan. Cyfnod o dair blynedd, yn cael ei leihau i ddwy flynedd.
Blaenoriaeth 4-04/12/2020-01/01/2021 Os na chaiff unrhyw brynwr arfaethedig ei nodi o a), b) c), bod y meini prawf preswylio lleol yn cael eu hagor i holl Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac y bydd y cyfnod cymhwyso yn cael ei ostwng ymhellach i 12 mis.
Ffioedd i Gyngor Sir y Fflint Bydd gofyn ichi lofnodi Arwystol Cyfreithiol sy'n ddogfen gyfreithiol isicrhau'r ecwiti 30%. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn codi ffi o £300 ar gyfer paratoi'r ddogfen hon.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£170,000 | £119,000 | Isafswm 5% |
Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk