Ail-werthiant
Fflat, un llofft ar werth drwy'r cynllun rhan ecwiti ac A106 ar ddisgownt gyda Cyngor Gwynedd.
Mae'r eiddo'n elwa o gynllun byw agored, gyda ystafell fyw a chegin yn un, (mae'r gegin yn cynnwys oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a stof), un ystafell wely ddwbl ac ystafell ymolchi.
Yn gynwysiedig, mae carpedi a lloriau, gwres canolog nwy, ffenestri UPVC a drysau tan.
Tu allan, mae ardal parcio ar gyfer yr eiddo.
Eiddo perffaith ar gyfer person sengl neu gwpl gyda golygfeydd hyfryd o'r marina.
Tal gwasanaeth - oddeutu £1,547 y flwyddyn.
Rhent tir - £150.
997 o flynyddoedd ar ol ar y les.
Band treth cyngor - B
Meini prawf preswylio lleol
Rhaid i chi fodloni'r meini prawf cysylltiad lleol ar gyfer tai fforddiadwy, gan roi blaenoriaeth i:
Blaenoriaeth 1 - 28/01/2021 - 25/03/2021
(i) preswylydd sydd wedi byw neu weithio yn ardal Cyngor Cymuned Felinheli neu Gynghorau Cymuned yn union gyfagos am 5 mlynedd yn ddi-dor.
(ii) preswylydd sydd yn byw neu weithio tu allan i'r ardal ond sydd wedi byw yn y gymuned yn y gorffennol am 5 mlynedd neu fwy.
(iii) person sydd wedi byw tu allan i'r ardal ond sydd wedi byw yn yr ardal yn y gorffennol am gyfnod o 5 mlynedd gan gynnwys cyfnod parhaus o 3 blynedd neu fwy o fewn cyfnod o 20 mlynedd.
Blaenoriaeth 2 - 26/03/2021 - 21/05/2021
(i) preswylydd sydd wedi byw neu weithio o fewn Gwynedd am gyfnod o 5 mlynedd neu fwy cyn gwneud y cais.
(ii) person sydd yn byw tu allan i Wynedd ar hyn o bryd, ond sydd wedi byw o fewn y Sir am gyfnod o 5 mlynedd yn y gorffennol.
(iii) person sydd yn byw tu allan i'r Sir ond sydd wedi byw yno am gyfanswm o 5 mlynedd gan gynnwys cyfnod parhaus o 3 blynedd neu fwy o fewn cyfnod o 20 mlynedd.
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£126,500 | 5% - 20% dibynu ar y benthycwyr |
Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk