Cyfryngau Cymdeithasol

1 Tan y Chwarel, Dinbych, Sir Ddinbych

Tŷ pâr 3 ystafell wely 5 person

  • Sir Ddinbych
  • 3 Ystafelloedd Gwely

Bydd ceisiadau am yr eiddo hwn ar gau: 09.09.24 at 09:00

* Os hoffech wneud cais am yr eiddo yna cysylltwch â ni drwy e-bost / ffôn neu chat drwy ein gwefan. Rhaid cyswllt gael ei wneud cyn dyddiad cau'r eiddo.*

Tŷ pâr 3 ystafell wely 5 person ar gael ar y Cynllun rhent Canolraddol drwy Grwp Cynefin.

Mae’r eiddo’n cynnwys Ystafell fyw, cegin, ystafell gotiau lawr grisiau, 3 llofft, ac ymolchfa.

Gwres canolog nwy

Gerddi yn y tu blaen a’r cefn

Ardal parcio wedi ei neilltuo

Bydd Grwp Cynefin yn darparu carpedi (fydd yn cael eu “gifftio” I chi) lloriau gwrthlithro yn y gegin, ymolchfa a’r toiled lawr grisiaru.

Rhent Misol: £674.22

Tal Gwasanaeth: £6.23

Blaendal: £680.45

Lleiafswm incwm i gael eich cysidro i fod dim llai na £27,218 (incwm gwaith a/neu budd-daliadau).

Mae’r contract yn Gontract Safonol , ar sail misol, Cyn belled a cedwir at dermau’r contract, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.

Cyn y gallwn gynnig tenantiaeth i chi, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad credyd, landlord a chyflogwr.

Os am unrhyw reswm y byddwch yn methu eich gwiriad credyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu Gwarantwr i ni, a fydd wedyn yn gorfod cwblhau gwirid credyd.

Meini Prawf Preswylio:

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw neu weithio yn ardal cymuned Dinbych am gyfnod di-dor o 12 mis yn union cyn derbyn meddiannaeth o’r eiddo, neu yn y gorffennol. Os nad oes gennym ddigon o ymgeiswyr o Dinbych, yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymunedau Henllan, Y Green ar cymunedau cyfagos cyn yn agor allan i Sir Ddinbych.

EPC - Wedi atodi isod

Band Treth y Cyngor - B

Yn caniatau hyd at 2 anifail.

Eiddo ar gael diwedd Hydref 2024

Rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r dyddiad cau ymlaen os derbynnir nifer ddigonol o ymgeiswyr.

Nodwch, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion ar eich ffurflen gais yn gywir ar adeg gwneud cais am eiddo gan y gallai effeithio ar eich lle ar y rhestr fer. Os oes angen diweddaru eich manylion, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn dyddiad cau'r eiddo. Ni fydd manylion sy'n cael eu diweddaru ar ôl creu'r rhestr fer yn cael eu hystyried.

Manylion Eiddo

  • Cyfeiriad: 1 Tan y Chwarel, Dinbych. Sir Ddinbych. LL16 3YQ
  • Cod Post: LL16 3YQ
  • Ystafelloedd Gwely: 3
  • Math o Eiddo: Ail Osod

Gwerth Eiddo

Pris Marchnad Agored Pris Fforddiadwy Blaendal fydd ei angen
£680.45 £680.45

Cyn i chi wneud cais am yr eiddo hwn, cwblhewch eich cais am aelodaeth.

Arbed i'r rhestr fer

Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.

Angen Cymorth?

Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:

Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English