Eiddo diwedd teras 3 ystafell wely ar gael ar y Cynllun Disgownt S106.
Eiddo diwedd teras 3 ystafell wely ar gael ar y Cynllun Disgownt S106.
Mae'r eiddo yn cynnwys cegin, ystafell fwyta, lolfa, 3 ystafell wely a 2 ystafell ymolchi gyda 'airing cupboard' ac ardal storio o dan y grisiau.
Gwres canolog trydan drwyddo draw.
System panel solar 4.5Kva.
Ffenstri a drysau UPVC gwydr dwbl drwyddo draw gyda drysau dwbl yn arwain i mewn i'r ardd.
Gardd fawr gyda mynediad anabl i'r eiddo.
Parcio dynodedig y tu ôl i eiddo (ar cul-de-sac preifat) gyda dau le parcio preifat.
Iard fach i flaen y tŷ gydag 'side alley' fawr.
Wedi'i adeiladu i safon uchel (cwblhawyd yn 2019).
Mae'r eiddo hwn yn cael ei gynnig gyda charpedi a lloriau drwyddo draw.
Mae'r eiddo hwn yn cael ei gynnig gyda 'log burner' ardystiedig wedi'i osod.
Wedi'i leoli 50 llath o amwynderau lleol yn nhref hardd Nefyn (5 munud o'r traeth).
Pris Marchnad Agored - £270,000
70% Pris Fforddiadwy - £189,000
Isafswm blaendal o 5% , yn dibynnu ar fenthyciwr.
EPC - B (gweler atodiad isod)
Band Treth Cyngor - D
Freehold
Bydd cysylltiad lleol yn cael ei ystyried fel a ganlyn:
Am y 3 mis cyntaf o hysbysebu byddwn ond yn ystyried ymgeiswyr sydd â chysylltiadau â'r isod:
(a) person sydd wedi byw neu weithio yn yr ardal leol lle mae'r tir coch wedi'w leoli neu yn ardal y cyngor cymuned cyfagos, am gyfnod parhaus o 5 mlynedd yn union cyn cyflwyno'r cais neu feddiannu'r eiddo neu
(b) person sy'n byw y tu allan i'r ardal leol ond sydd wedi byw o fewn yr ardal leol ond sydd wedi byw yno yn y gorffennol am gyfanswm o 5 mlynedd neu fwy yn y gorffennol, neu
(c) person sy'n byw y tu allan i'r ardal leol ond sydd wedi byw yno yn y gorffennol am gyfanswm o 5 mlynedd gan gynnwys cyfnod di-dor o 3 mlynedd neu fwy o fewn cyfnod o ugain mlynedd.
Ar ôl hysbysebu am y 3 mis cyntaf, byddem wedyn yn agor ceisiadau ar gyfer ymgeiswyr cymwys eilradd am 3 mis arall fel y nodir isod:
(a) person sydd wedi byw neu weithio yn y Sir lle mae'r tir coch wedi'w leoli am gyfnod parhaus o 15mlynedd yn union cyn cyflwyno'r cais neu feddiannu'r eiddo neu
(b) person sy'n byw y tu allan i'r Sir ond sydd wedi byw o fewn y Sir am gyfnod di-dor o 5 mlynedd neu fwy yn y gorffennol, neu
(c) person sy'n byw y tu allan i'r Sir ond sydd wedi byw yno yn y gorffennol am gyfanswm o 5 mlynedd gan gynnwys cyfnod di-dor o 3 mlynedd neu fwy o fewn cyfnod o ugain mlynedd.
Mae ffi asesu o £75.00
Pris Marchnad Agored | Pris Fforddiadwy | Blaendal fydd ei angen |
---|---|---|
£270,000 | £189,000 | Minimum 5% deposit (depending on lender) |
Arbed yr eiddo hwn i'ch rhestr fer fel y gallwch chi ddod o hyd iddo yn nes ymlaen.
Croeso i chi gysylltu â ni i drafod y broses cofrestru/eich cais neu gynllun penodol. Manylion cysylltu wedi ei nodi isod:
Ffôn: 03456 015 605
Ebost: info@taiteg.org.uk