Datblygiad unigryw ar y tir gerllaw'r Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Bydd y Datblygiad yn gymysgedd o dai dwy a thair ystafell wely a byngalos dwy ystafell wely, rhagwelir y byddant wedi eu cwblhau yn Haf 2020.
Mae’n gyfle i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel i gwrdd â'r angen am dai lleol.
Mae'r datblygiad wedi derbyn Cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy’r rhaglen Tai Arloesol. Byddant yn datblygu cartrefi a fydd yn garbon isel gyda thechnolegau gwyrdd arloesol gan sicrhau cartrefi fydd yn hynod fforddiadwy i'w rhedeg a'u bod yn garedig i'r amgylchedd.