Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd, mewn partneriaeth â Beech Construction yn adeiladu chwech tŷ ‘rhentu i brynu’ ar safle hen ysgol Hendre, Caernarfon.
Bydd y chwech tŷ yn rhan o stad o 45 o dai newydd sy’n gymysgedd o unedau (cymdeithasol a marchnad agored). Bydd pedwar tŷ tair ystafell wely a dau dŷ dwy ystafell wely ar gael i’w ‘rhentu i brynu’. Disgwylir y bydd tri o’r tai yn barod diwedd y flwyddyn a’r rhai eraill i ddilyn yn Haf 2020.
Am fwy o fanylion am fuddion y cynllun rhentu i brynu ac i weld os ydych yn gymwys ewch i: https://taiteg.org.uk/cy/am-i-eligible-to-apply