Mae Swyddogion Tai Teg yn ateb galwadau ffôn rhwng 9:30am-1pm a 2pm a 4pm Dydd Llun i Wener. Fe allwch hefyd cysylltu â ni drwy e-bost info@taiteg.org.uk neu drwy Messenger ar facebook.

Croeso i safle we Tai Teg.

Bydd y safle yn rhoi gwahanol opsiynau ynglŷn ag unedau fforddiadwy sydd ar gael, boed yn eiddo i’w rhentu (rhent canolraddol) neu eiddo i’w prynu sydd yn fwy fforddiadwy nag eiddo sydd ar werth ar y farchnad agored.

Rydym yn gobeithio bydd y safle yn darparu’r holl wybodaeth rydych ei angen am y cynlluniau sydd ar gael a’r meini prawf sydd rhaid eu cyrraedd er mwyn i chi gael eich cymeradwyo a’ch rhoi ar y gofrestr.

Yn ogystal, fydd y gofrestr yn casglu gwybodaeth am yr angen am eiddo fforddiadwy yn Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint, Wrecsam a Phowys. Defnyddir yr wybodaeth i roi sylwadau ar geisiadau Cynllunio â chefnogi’r Cynghorau a Chymdeithasau Tai i gynllunio ar gyfer datblygiadau i’r dyfodol.

Am wybodaeth pellach cliciwch ar y linc.


Cofrestu â Tai Teg

Dewiswch iaith

Please select a language

Cymraeg English